Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir y Fflint

Chwa o Awyr Iach

Pryd oedd y tro diwethaf i chi feddwl pa mor hyfryd o wahanol oedd eich diwrnod? Pryd oedd yr adeg arbennig ddiwethaf a gawsoch a wnaeth eich atgoffa chi pam y gwnaethoch ddewis gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol yn y lle cyntaf? Mae’r adegau yma’n digwydd yn Sir y Fflint ac maent yn newid bywydau er gwell.

Ymddiriedaeth. Mae wrth wraidd y ffordd rydym ni’n meddwl. Y ffordd rydym ni’n ymddwyn. Ac mae’n rhoi rhyddid i bawb wneud penderfyniadau annibynnol. Lleoliad. Rydym ni’n credu y byddwch chi’n cytuno, does yr un lle mor hardd â Sir y Fflint.

O blant i oedolion, o’r arfordir i gefn gwlad ac o fod ar safle i fod yn y llys, mae’r amrywiaeth eang o lefydd y byddwch chi’n gweithio ynddynt a’r bobl y byddwch chi’n gweithio gyda nhw yn wahanol i unrhyw le arall. A gyda’r ymreolaeth i herio yn ôl a chreu datrysiadau arloesol i feithrin pobl, mae’r gwahaniaeth yn Sir y Fflint yn amlwg. Cyfunwch hyn gyda chefnogaeth tîm cysylltiedig a’r cyfle i gysylltu gyda sefydliadau eraill, ac yn ddigon buan fe welwch chi ddyfodol o ddysgu, datblygu a chyfleoedd. Bychan yw poblogaeth Sir y Fflint. Mae cyfleoedd Sir y Fflint ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol yn enfawr.

Ymhle y gallwch chi weithio?

  • O fewn y gwasanaethau plant rydym yn canolbwyntio’n gyson ar yr hyn sy’n bwysig i’r plentyn, i’r teulu, a sut ydym yn gwrando ar eu lleisiau. Rydym eisiau i’n staff deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ond bod ganddynt hefyd yr ymreolaeth i ddod o hyd i ddatrysiadau creadigol i helpu i fodloni anghenion y rheiny yr ydym yn gweithio â nhw.

    Mae gennym bobl angerddol yn gweithio ac yn arwain ein timau sy’n cefnogi pobl wrth ddrws ffrynt gwasanaethau cymdeithasol, fel Cyswllt Cyntaf a’r Canolbwynt Cymorth Cynnar, hyd at rolau’r rheng flaen mewn Maethu, Cymorth wedi’i Dargedu, Ymyrraeth Deuluol, a Sefydlogrwydd a’r Llys.

    Os ydych chi’n meddwl eich bod yn weithiwr cymdeithasol creadigol ac angerddol sydd eisiau ymuno â thîm gwaith cymdeithasol blaengar ac sy’n canolbwyntio ar deuluoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i weld pa gyfleoedd sydd gennym ar gael.

  • Mae ein timau gwaith cymdeithasol i oedolion yn lleoedd blaengar a chefnogol iawn i weithio ynddynt. Mae arfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud ac mae ein diwylliant a’n dull yn sicrhau bod staff yn yr amgylchedd iawn, gyda’r offer iawn, i gael y canlyniadau gorau i’r bobl y maent yn gweithio gyda hwy a’u gofalwyr.

    O’n timau un pwynt cyswllt a’n timau dyletswydd brys, i’n timau anabledd dysgu, anabledd corfforol, ardal ac iechyd meddwl, mae gennym ffordd gyfannol a chysylltiedig o weithio sy’n sicrhau fod pobl yn cael y gofal a’r gefnogaeth orau os ydynt yn byw yn Sir y Fflint.

    Os ydych chi’n meddwl y byddai amgylchedd cefnogol, blaengar ac o ymddiriedaeth yn gwneud gwahaniaeth i’ch gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol, ewch i weld pa gyfleoedd sydd gennym ar gael heddiw.

  • Mae ein cyfleoedd gofal cymdeithasol i blant yn cynnig amgylchedd gwaith gwych i unigolion dibynadwy, gwydn ac sy’n gallu creu amgylcheddau llawn hwyl ac sy’n ymgysylltu i’r plant sy’n aros gyda ni.

    Ar draws 4 eiddo, mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu amgylchedd gofalgar a sefydlog i blant a phobl ifanc, sy’n cael ei hybu gan dîm staff ac arweinyddiaeth cryf.

    Os ydych chi’n meddwl bod newid i weithio gyda ni yn ein gwasanaeth preswyl i blant yn rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i chi, ewch i weld ein cyfleoedd presennol am fwy o wybodaeth.

  • Mae gan Sir y Fflint un o’r gwasanaethau gofal cymdeithasol mewnol mwyaf yng Nghymru. Gydag amrywiaeth o gartrefi gofal, cyfleusterau gofal ychwanegol, cymorth iechyd meddwl yn y cartref a chymunedol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pobl yn cael y gofal a’r gefnogaeth orau.

    Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer ein staff. Mae gweithio i ni yn golygu y byddwch yn rhan o dîm agos, sy’n cael ei atgyfnerthu gan rwydwaith mawr o gydweithwyr sy’n gweithio mewn gwasanaethau eraill. A yw cadw pethau’n ffres yn bwysig i chi? Mae ein hystod eang o wasanaethau yn golygu y gallwch chi gael profiadau mewn amrywiaeth o feysydd wrth barhau i weithio yn yr un sefydliad.

    Ydych chi’n meddwl fod gweithio mewn amgylchedd sefydlog a chefnogol sy’n cyflawni canlyniadau cadarnhaol yn gyson ar gyfer y bobl yr ydym ni’n eu cefnogi yn rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i chi? Ewch i gael golwg ar ein cyfleoedd rŵan.

“Mae’n anhygoel, rwyf wrth fy modd yma. Mae pawb mor gyfeillgar ac mor groesawgar a gofalgar ac rydych chi’n gwybod y gallwch chi fynd atyn nhw ynglŷn ag unrhyw broblem. Rydym fel teulu bach. ”— Kayleigh, Gweithiwr Cymdeithasol

“Mae gennym ni gymunedau hyfryd ac mae gennym ni breswylwyr hyfryd iawn y mae angen ein cymorth ni arnyn nhw, ac fel tîm, rydym ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau eu bod nhw’n cael y gorau gennym.” - Y Cynghorydd Christine Jones

“Rydym ni eisiau i staff wneud y peth iawn a pheidio o reidrwydd â dilyn sut yr oedd pethau’n cael eu gwneud o’r blaen. Felly os oes gan staff syniadau ar gyfer arloesi, ar gyfer newid pethau, mae gennym ni dîm rheoli agored iawn sy’n ymateb i’r syniadau hynny a’u gwireddu.” - Neil Ayling, Prif Swyddog